Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2025
noddwyd gan KPMG UK ac FT Schools
Mae ein cystadleuaeth fawreddog Economegydd Ifanc y Flwyddyn yn ôl ar gyfer 2025! Denodd y gystadleuaeth y llynedd geisiadau gan bron i 3,000 o bobl ifanc, ac rydym yn edrych ymalen yn eiddgar i dderbyn eich ceisiadau. Gwahoddwyd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol i fynychu teithiau a chyfarfodydd yn Nhrysorlys EM a 10 Downing Street, cyn cyflwyno eu hymchwil i banel o feirniaid uchel eu parch yn swyddfeydd KPMG yn Canary Wharf. Am beth wyt ti'n aros? Cer nawr i fyd anhygoel economeg - p'un ai wyt ti wedi ei astudio o'r blaen ai peidio!
NOD
Nod cystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2025, Y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG UK ac FT Schools yw annog myfyrwyr Blwyddyn 10 – Blwyddyn 13 i ddatblygu eu syniadau eu hunain wrth ddadansoddi problemau economaidd cyfoes sy'n wynebu'r DU a'r byd.
​
Gall myfyrwyr ddewis o blith rhestr o’r pynciau isod. Nid oes angen i fyfyrwyr astudio economeg i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Mae’r RES yn croesawu ceisiadau gan unrhyw fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn materion economaidd ac a hoffai rannu syniadau neu safbwyntiau gwreiddiol ar y materion hyn. Mae’r RES hefyd yn croesawu ystod amrywiol o gyfraniadau a mewnwelediadau ar bynciau’r gystadleuaeth.
Fformat mynediad
Rhaid i’ch cais:
-
ateb 1 o’r 5 cwestiwn isod:
​​
-
Beth yw canlyniadau economaidd cyfradd geni sy'n gostwng, a pha ddulliau gellir eu cymryd i liniaru'r rhain?
-
Beth yw ysgogwyr anghydraddoldeb cyfoeth yn y DU a sut y gellir mynd i'r afael â nhw?
-
Beth yw effeithiau economaidd tariffau i ddefnyddwyr, busnesau ac economïau byd-eang?
-
A fydd ehangu hedfan yn caniatáu i'r DU gyflawni twf economaidd a bodloni ymrwymiadau hinsawdd ar yr un pryd?
-
Sut gall economeg esbonio pris uchel car cyflym moethus?​
​
-
fod ar ffurf ysgrifenedig neu gyfryngol. Hyd ysgrif ar ffurf blog dim mwy na 1,000 o eiriau. Mae’r cyfryngau yn cynnwys fideo, podlediad neu sleidiau cyflwyno pwerbwynt. Ni ddylai fideos a phodlediadau fod yn hirach na 5 munud o hyd.
-
fod gan unigolyn neu grŵp o 2-5 disgybl.
-
ni ddylai gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Bydd angen rhoi’r wybodaeth yma ar dudalen we y gystadleuaeth.
-
beidio â defnyddio cymwysiadau fel ChatGPT neu fathau eraill o ddeallusrwydd artiffisial (AI)
-
mae'n rhaid i chi gydnabod y defnydd o wybodaeth/deunydd o ffynonellau eraill. Nid oes angen cyfeirnodau manwl testunol o'ch dadleuon, fodd bynnag, rhaid cynnwys rhestr o’r ffynonellau rydych wedi defnyddio sydd wedi dylanwadu'n sylweddol ar eich dadleuon ar ddiwedd eich cais. Os fydd eich cais yn un ysgrifenedig yna dydy’r ffynhonellau ddim yn cyfri tuag at nifer y geiriau. Gweler y fideo 'How to reference' (Saesneg yn unig) am fwy o gymorth.
Cwestiynau Cyffredin
Cofrestrwch i'n gweminar yma am awgrymiadau unigryw a chwestiynau cyffredin! Cyfle anhygoel ar 1 Ebrill 2025 am 5yh i glywed gan enillwyr 2025, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gystadleuaeth. Cofrestrwch yma.​​​​​​​​​​​​
​
A oes terfyn amser ar bodlediadau/fideos?
Oes - ni ddylai podlediadau a fideos fod yn hirach na phum munud o hyd.
​
A oes cyfyngiadau ar bwerbwyntiau?
Os byddwch chi’n recordio eich pwerbwynt, a'i siarad drosodd, ni ddylai fod yn hirach na phum munud. Os yw'n cael ei gyflwyno fel pwerbwynt yn unig, ni ddylai fod yn hirach nag wyth sleid, na mwy na 1,000 o eiriau.
​
Oes angen trawsgrifiad arnaf ar gyfer fy mhodlediad/fideo?
Nac oes, ond meddyliwch sut y byddwch yn cyflwyno eich cyfeiriadau - a fydd hyn ar lafar, neu o fewn dogfen word?
​
Ydy dyfyniadau yn cyfrannu at y cyfanswm geiriau?
Ydyn.
​
Eich data
Bydd unrhyw ddata personol mewn cais yn cael ei brosesu gan RES yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol, a Hysbysiad Preifatrwydd RES sydd ar gael yma: https://res.org.uk/resources-library/privacy-notice
Partneriaid
CYMHWYSEDD
I ymgeisio, rhaid i chi fod:
• ym Mlynyddoedd 10 i 13 yn Lloegr neu Cymru, Blynyddoedd 11 i 14 yng Ngogledd Iwerddon, neu S3 i S6 yn yr Alban
• astudio yn y DU
Mae ymgeisio i’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim.
Nid oes angen i chi fod yn astudio economeg, a gallwch weithio ar eich cais gyda hyd at 4 disgybl arall.
Ar gyfer ceisiadau gan ysgolion preifat rydym yn annog iddynt ymgeisio mewn partneriaeth ag ysgolion gyfun lleol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Cyflwynwch eich cais yma.
​
Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 23.59 (AHP) ar 29 Mehefin 2025.
Bydd panel yn darllen ac yn marcio’r ceisiadau cyn cytuno ar restr fer derfynol o 5 cais. Bydd y 5 cais ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2025 mewn digwyddiad i'w gynnal yn swyddfeydd KPMG ym mis Hydref 2025. Yn ogystal, bydd "Enillydd Cymru", o ysgol o Gymru, yn cael ei dewis/ei ddewis, gan gydnabod y cais gwychaf .
​
Bydd cyrraedd y rownd derfynol yn golygu rhoi cyflwyniad 10 munud ac yna 5 munud o gwestiynau gan banel arbenigol cyn cyhoeddi yr enillydd.
Bydd y cais buddugol yn ymddangos yn y Financial Times.