top of page
Abigail Carroll

Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o amrywiaeth mewn economeg

Updated: Jun 28

 

Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o amrywiaeth mewn economeg

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Discover Economics - ymgyrch gan y Gymdeithas Economaidd Frenhinol sy'n annog mwy o ddisgyblion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i astudio economeg.

 

Cadarnhawyd y bartneriaeth ddoe (dydd Mawrth 25 Mehefin 2024) mewn digwyddiad yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

 

Mae'r diffyg amrywiaeth o bobl sy'n astudio economeg wedi cael ei nodi fel un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y nifer bychan o sylwebwyr ac arbenigwyr o gefndiroedd gwahanol sy’n cynghori ar faterion cyllidol yng Nghymru.

 

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £5,000 i gefnogi gwaith Discover Economics.  Nod y gwaith hwn yw ehangu apêl economeg i fwy o ddisgyblion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol; a newid eu barn am economeg ac economegwyr.

 

Drwy gydol y flwyddyn, bydd economegwyr Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn gweithdai ysgolion; a digwyddiadau gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, a Phrifysgol Bangor, gan hyrwyddo economeg fel dewis gyrfa.

 

Mae'r bartneriaeth newydd hefyd yn cynnwys ychwanegu categori Cymru i gystadleuaeth flynyddol Economegydd Ifanc y Flwyddyn a gynhelir gan Discover Economics.

 

Mae'r gystadleuaeth yn annog myfyrwyr Blwyddyn 10 i Flwyddyn 13 i gyflwyno eu syniadau am sut i fynd i'r afael â phroblemau economaidd sy'n wynebu'r byd heddiw.

 

Maent yn derbyn ceisiadau, ac mae gan ddisgyblion tan 23.59 (BST) ar 12 Gorffennaf 2024 i gyflwyno eu cais. Bydd enillwyr yng nghategori newydd Cymru yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref.

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet, Rebecca Evans: "Mae mynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth ym maes economeg yn allweddol, i sicrhau nad yw pobl ifanc yn colli allan ar yrfa dda, ac i sicrhau bod ein heconomegwyr, arbenigwyr a sylwebwyr yn adlewyrchu pobl Cymru yn well. Rwy'n ddiolchgar i Discover Economics am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud i ehangu apêl economeg fel pwnc, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â mwy o economegwyr o Gymru y dyfodol."

 

Dywedodd Sam McLoughlin o Discover Economics: "Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i agor llygaid pobl ifanc o bob cefndir i'r cyfleoedd gyrfaoedd amrywiol a chyffrous ym maes economeg. Diolch i Brifysgol Caerdydd am gynnal y digwyddiad ysbrydoledig hwn ar gyfer ysgolion lleol ac am eu cefnogaeth parhaus. Edrychwn ymlaen yn awr i dderbyn llawer o geisiadau o ysgolion Cymru i'n cystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn."

 

 

Dywedodd Melanie Jones o Brifysgol Caerdydd: "Mewn cydweithrediad â Discover Economics, rydym yn gyffrous i groesawu disgyblion i Brifysgol Caerdydd i ddangos sut y gall economeg ein helpu i ddeall materion sy'n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Wrth enghreifftio ehangder economeg, rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli, ac yn helpu i hyrwyddo amrywiaeth yn y genhedlaeth nesaf o economegwyr."

 

 

Mwy am Discover Economics

 

Mae Discover Economics yn ymgyrch gan y Gymdeithas Economaidd Frenhinol i gynyddu amrywiaeth mewn economeg.

 

Mae'r ymgyrch yn targedu pobl ifanc sy'n penderfynu pa gymwysterau i’w dilyn a pha bynciau i'w hastudio yn y brifysgol neu ar gyfer prentisiaeth.

 

Y llynedd, cymerodd 3,000 o bobl ifanc ran mewn gweithdy Discover Economics ac mae'r canlyniadau'n dangos bod cynnydd o 13% yn y tebygolrwydd a nodwyd o astudio economeg drwy fynychu eu digwyddiadau.

 

Cefnogir Discover Economics gan sawl sefydliad ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a phrifysgol gan gynnwys Banc Lloegr, y Sefydliad Iechyd a KMPG.

 

 

48 views0 comments

Comments


bottom of page